Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 19 Mai 2020
Amser:
13.42 -
14.24
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Dawn Bowden AS (Cadeirydd) Huw Irranca-Davies AS Dai Lloyd AS David J Rowlands AS |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Stephen Aldhouse (Ail Glerc) Gerallt Roberts (Dirprwy Glerc) Gareth Pembridge (Cynghorydd Cyfreithiol) Tom Lewis-White (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod; nid oedd unrhyw ymddiheuriadau.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
1.3 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.20, dywedodd y Cadeirydd fod Comisiwn y Senedd wedi penderfynu ei bod yn anymarferol darlledu'r trafodion.
1.4 Cytunodd yr Aelodau y dylid apwyntio fel Huw Irranca-Davies AS fel Cadeirydd Dros Dro os digwydd i’r Cadeirydd fethu cadeirio o ganlyniad i anawsterau technegol.
1.5 Nododd y Cadeirydd mai dyma oedd cyfarfod olaf Stephen Aldhouse fel Ail Glerc, ac estynnodd ddiolch iddo am ei gyfraniad at waith y Pwyllgor.
2.1 Derbyniwyd y cynnig.
3.1 Ystyriodd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.
4.1 Nodwyd y papurau.